Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 2
Mawrth 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Frechiadau COVID-19
(30 munud)
4 Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Tlodi Tanwydd
(30 munud)
5 Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021
(15 munud)
NDM7602 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
6 Rheoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021
(15 munud)
NDM7603 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Absenoldeb Teuluol ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2021 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Chwefror 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
7 Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021
(15 munud)
NDM7601 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2021 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Chwefror 2021.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
8 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif. 2)
(15 munud)
NDM7604 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Medi 2020 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Ardrethu Annomestig (Rhestrau) (Rhif 2) (Saesneg yn unig)
Dogfennau Ategol
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
9 Cyfnod pleidleisio
10 Dadl: Cyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
(180 munud)
Caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 a gytunwyd gan y Senedd ar 23 Chwefror 2021.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1: Yr Argyfwng
Hinsawdd a’r Argyfwng Ecolegol
51, 52, 53, 54, 55, 56, 57,
58
2: Sgiliau
Achub Bywyd a Chymorth Cyntaf
1, 3
3: Addysg
Cydberthynas a Rhywioldeb
2, 4, 41, 6, 8, 9, 10, 42, 20, 21, 22,
40
4: Hanes ac
amrywiaeth Cymru
43, 44, 46, 47, 48
5: Y Gymraeg
a’r Saesneg
34, 45, 35, 36, 37, 39, 49, 50,
38
6: Mân
welliannau a gwelliannau technegol
30, 32, 33
7: Gweithredu
a chyngor
5, 7, 12 (tynnwyd gwelliant 11 yn
ôl)
8: Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg
13, 23, 14, 24, 25, 26, 15, 27, 16, 28,
29, 17, 18, 19
9:
Confensiynau’r Cenhedloedd Unedig
31
Dogfennau
Ategol
Bil
Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) (fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod
2)
Memorandwm
Esboniadol
Rhestr
o welliannau wedi'u didoli
Grwpio
gwelliannau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 3 Mawrth 2021